Vaguely Deviant

Who Do You Think You Are?

Pwy ydych chi'n meddwl ydych chi?!.

Mae House of Deviant a Vaguely Artistic yn uno unwaith eto i gyflwyno Vaguely Deviant: Who do you think you are? Gallwch chi ddisgwyl caneuon bachog gan y band ac anhrefn a sgwrsio gan y Brenhinoedd a Breninesau.

Vaguely Artistic

Band ffync, blues, soul, pop, roc a phync mewnol Hijinx yw Vaguely Artistic. Gan ysgrifennu eu traciau gwreiddiol eu hunain a’u rhannu yn uchel ac yn falch, maen nhw’n chwarae popeth o The Beatles i Iggy Pop a Reef. Maen nhw wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, sydd ar gael ar Bandcamp a phob gwasanaeth ffrydio mawr. Dydych chi erioed wedi clywed dim byd tebyg!

House of Deviant

House of Deviant yw’r unig gwmni drag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae eu poblogrwydd wedi tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020 ac maen nhw’n brosiect a gyd-gynhyrchir yn Ne Cymru sy’n defnyddio perfformiadau drag fel ffordd o archwilio hunan-barch, hyder ac annibyniaeth i oedolion ag anableddau dysgu. Maen nhw’n ffyrnig, yn anhygoel ac yn wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi’i weld o’r blaen!

Amser dechrau: 8.30pm, 7.30pm drysau

Canllaw oed: 16+

Rhybuddion: Iaith gref