Yn y dyfodol agos, mae busnes technegol newydd, Figital, yn ceisio creu’r newyddbeth mawr newydd, y peth nad oedden ni’n gwybod ein bod ei eisiau ond sydd ei wir angen arnom, yn ôl pob tebyg. Y bechingalw newydd, neu Bob.Â
Mae yna un broblem…nid yw’n gweithio’n iawn eto.
Ac nid ydyn ni’n gwybod beth ydyw, mewn gwirionedd. Ac nid ydyn ni wedi meddwl o ddifrif am ganlyniadau’r dechnoleg rydyn ni ar fin ei rhyddhau. Mae’n mynd i newid popeth.Â
Mae the_crash.test, sy’n stori Frankenstein ar gyfer ein hoes ni, yn olwg dywyll, chwareus ar ein perthynas â thechnoleg, sy’n cynnwys pypedwaith cipio symudiad, tafluniad ar raddfa fawr, cyfansoddiad gwreiddiol a chast cynhwysol o berfformwyr ar y llwyfan a thrwy gyswllt fideo, i gynulleidfaoedd wyneb-yn-wyneb ac ar-lein.Â
Cyngor: Mae’r cynhyrchiad hwn yn cyfeirio at farwolaeth sydyn, ac mae’n cynnwys nifer o gyfnodau o densiwn mawr. Bydd clipiau o ddamweiniau ceir a ffrwydradau, golygfeydd sy’n debygol o fod yn anaddas i’r rhai sy’n sensitif i olau neu sain, a defnydd achlysurol o iaith gref.Â
Cast Dyfeisio.
Benjamin Victor
Bethany Freeman
Lucy White
Lindsay Foster
Matthew Mullins
Owen Pugh
Richard Newnham
Creadigwyr a Thîm Cynhyrchu.
Ben Pettitt-Wade
Cyfarwyddwr Artistig
Tom Ayres
Rheolwr Cynhyrchu
Ellis Wrightbrook
Pennaeth Theatr
Bron Davies
Cynhyrchydd Cynorthwyol
Mehdi Razi
Cyswllt Creadigol
Garrin Clarke
Rheolwr Technegol
Ceri James
Dylunydd Goleuo
Robin Moore
Ymgynghorydd Digidol
Jonny Rees
Technegydd Digidol
Tic Ashfield
Cyfansoddwr a Dylunydd Sain
Chris Laurich
Dylunydd Sain Cynorthwyol a Peiriannydd Sain
David Massey
Canolfan Mileniwm Cymru – Cynhyrchydd Profiadau Ar-lein
Karol Cysewski, Michelle McTernan, Zach Beasley, Matt Mulligan, Ashford Richards
Cast R&D
the_crash.test – Stori Weledol .
Dyma ‘stori weledol’ sydd ar gael i roi cyd-destun i rybuddion cynnwys y sioe, sy’n ddefnyddiol i aelodau o’r gynulleidfa sy’n hoffi gwybod beth i’w ddisgwyl…ddim yn ddefnyddiol i’r rhai sydd ddim am i’r stori gael ei sbwylio!Â