Swyddi Gwag: Ymddiriedolwyr (Gwirfoddol).
Ynglŷn â Bod yn Ymddiriedolwr
Mae ymuno â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn Theatr Hijinx yn cynnig cyfle cyffrous i gyfrannu at gymuned gelfyddydol ddeinamig a chynhwysol. Rydym yn chwilio am unigolion sy’n barod i gynnig safbwyntiau a dealltwriaeth newydd, wedi eu meithrin trwy brofiadau bywyd a phroffesiynol.
Boed yn brofiadol mewn swyddi ar fyrddau neu yn ystyried bod yn ymddiriedolwr am y tro cyntaf, bydd eich cyfraniad yn hanfodol wrth ein helpu i fynd trwy a chyfoethogi tirwedd theatr gynhwysol, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd heb gael eu cynrychioli’n ddigonol yn Hijinx ac yn y diwydiant celfyddydol oherwydd rhwystrau yn gysylltiedig ag ethnigrwydd, dosbarth, anabledd, rhyw, daearyddiaeth, rhywioldeb, oedran a chrefydd. Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn unigolion sy’n dwyn setiau penodol o sgiliau sy’n gyson â’n hanghenion:
- Cynllunio Strategol
- Anabledd, Hygyrchedd a Chynhwysiant
- Y Gymraeg
- Prosiectau Cyfalaf
- Codi Arian a Rhoi Gan Unigolion
- Adnoddau Dynol
- Ymgysylltiad Cymunedol
- Marchnata a Chyfathrebu
- Cynaliadwyedd, Argyfwng Hinsawdd a/neu Gyfiawnder Hinsawdd
- Artist/Gweithiwr Creadigol Gweithredol
- Cyllid
Sylwer os gwelwch yn dda mai gwirfoddol yw swyddi Ymddiriedolwyr ac felly yn ddi-dâl, ond gellir talu treuliau rhesymol.
Swydd Wag
Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.
Hijinx Trustee Recruitment Pack – Cymraeg – 2024 (Plain Text Word)
Hijinx Trustee Recruitment Pack – Cymraeg – 2024 (PDF)
Os oes angen y wybodaeth am y swydd ar fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar eloise.tong@hijinx.org.uk.
Sut i Ymgeisio
Os credwch eich bod chi yn addas ar gyfer y swydd ac y byddech yn hoffi ymgeisio, anfonwch y canlynol atom:
- CV cyfredol yn dweud wrthym amdanoch chi – a pham eich bod yn teimlo mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd, gan sicrhau eich bod yn amlygu eich profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word, os gwelwch yn dda.
- Llythyr esboniadol o ddim mwy na dwy ochr – yn dweud wrthym pam mai chi yw’r ymgeisydd iawn a sut y byddech yn mynd ati i ymdrin â chyfrifoldebau’r swydd neu fideo o ddim mwy na 5 munud.
- Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi ei llenwi – i’w llenwi ar-lein yma cadarnhewch yn y llythyr esboniadol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.
Dylid anfon ceisiadau at eloise.tong@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.
Bydd y ceisiadau’n cau am hanner nos ar 31 Ionawr 2025.Â
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd, angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill, neu angen y wybodaeth am y swydd ar fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar eloise.tong@hijinx.org.uk