Sut bynnag y dymunwch, mae eich cefnogaeth yn creu profiadau sy’n newid bywyd i’r cyfranogwyr a chynulleidfaoedd; gan greu byd lle mae’r celfyddydau a chymdeithas yn gwbl gynhwysol i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.
Cyfrannwch rodd unwaith neu’n rheolaidd.
Rhoi RhoddGwirfoddolwch gyda n.
Os byddai’n well gennych fuddsoddi’ch amser, mae gennym sawl cyfle gwirfoddoli rheolaidd a dros dro. Rydym hefyd yn cynnig lleoliadau i fyfyrwyr sydd eisiau cael profiad gwerthfawr yn niwydiant y celfyddyda.
GwirfoddoliDefnyddiwch Amazon Smile.
Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i’ch cyfrif Amazon trwy’r ddolen Amazon Smile, chwilio am Hijinx, ac yna ein dewis ni fel eich elusen i gyfrannu ati wrth i chi siopa heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Mae pawb ar eu hennill!
Amazon SmileCofrestrwch i gael ein Cylchlythy.
A rhannwch ein gwaith cyffrous gydag eraill ar gyfryngau cymdeithasol!
Cefnogwch ni drwy eich gwerthiant.
Gall eich busnes bach ein helpu i wneud gwahaniaeth MAWR. Cefnogwch ni drwy gyfrannu £ neu % o werthiant eich cynnyrch neu wasanaethau i Theatr Hijinx os gwelwch yn dda. Ymrwymwch eich cyfraniad heddiw mewn ffordd gyfreithiol, syml a chynaliadwy drwy ein tudalen Gweithio er Lles.
Work for GoodYmunwch â ni fel partner corfforaetho.
Mae digonedd o ffyrdd y gall eich busnes ymwneud â Hijinx, o gofrestru ar gyfer ein hyfforddiant cyfathrebu sydd wedi ennill gwobrau, i gefnogi ein gwaith gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Rydym yn gwybod bod pob busnes yn unigryw a byddwn yn gweithio gyda chi i deilwra partneriaeth ystyrlon.
Gallwn gynnig y canlynol i chi fel partner:
- Partneriaethau wedi’u teilwra sy’n cysylltu’ch busnes ag un o’r cwmnïau theatr gynhwysol mwyaf blaenllaw yn y byd
- Ffyrdd newydd arloesol i’ch busnes ymgysylltu â’ch staff, cwsmeriaid, cleientiaid, a’r gymuned
- Sylw i’ch brand ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol
- Cydnabyddiaeth mewn print, ar-lein ac mewn cyhoeddiadau
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn bartner ac yr hoffech drefnu cyfarfod, llenwch y ffurflen gyswllt ar ddiwedd y dudalen hon.