PJ/Xuanjun Ke.
Fy enw i yw PJ/Xuanjun Ke, rwy’n dod o Tsieina ac ar hyn o bryd yn astudio BA mewn darlunio ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Rwy’n hoffi gweithio gyda fy nwylo fel darlunydd, ac arbrofi gyda llawer o bosibiliadau yn fy ngwaith.
Mae teimlo prosesau, mynd ar daith, darganfod pethau newydd ar hyd y ffordd yn fwyd a diod i mi. Rhoddodd 12 diwrnod prosiect PAWB gyda theatr Hijinx y cyfle i mi fod mewn awyrgylch bywiog gyda phobl sy’n angerddol am gelfyddyd perfformio, rwyf wir eisiau dysgu mwy am y theatr a gobeithio medru gwneud rhywfaint o ddylunio llwyfan yn y dyfodol.
Cychwynnodd y gyfres hon o waith gydag aelod o’r cast yn dweud wrthyf: ”sut ydych chi’n mwynhau’r awyrgylch siang-di-fang hyd yn hyn?”. Daeth fflach o oleuni i mi – dyna’n union beth wna’i ei ddarlunio – awyrgylch siang-di-fang. Bu’r sesiynau ymarfer drwy fis Tachwedd yn anhygoel i’w mynychu a’u darlunio. Mae fy nhudalennau’n llawn o symudiadau, mannau agored a lleisiau, a’r cymeriadau sy’n datblygu’n barhaus. A waeth pa mor galed y byddaf yn ymdrechu, mae bob amser yn teimlo’n anodd ei gyfleu – y chwerthin o’r gemau, a theimlad cymunedol cynnes a chariad yn y darluniau.
Daeth gweld sut mae perfformiad aelodau Odyssey yn tyfu bob wythnos â llawenydd ffantastig i mi, rwy’n teimlo wedi fy mendithio i fod yn rhan o’r daith ryfeddol hon.
Instagram (gwaith diweddaraf wedi ei ddiweddaru latest): @jot803.pj
Gwefan (gwerthu printiau yn bennaf ) yma.
Gellir gweld y brasluniau na wnaeth gyrraedd y darn terfynol (llyfr brasluniau i fodio drwyddo) yn y fan hon.