Ahoi gyfeillion! Gwrandwch ar chwedl yr Odyssey Inn….
Pan ddangosa Billy hen fap trysor i Jemima, mae antur yn eu haros. Yn fuan mae ein harwyr yn hwylio’r moroedd mawr ar daith fydd yn eu clymu am byth. Stormydd. Gwylanod. Brwydrau â chleddyf. Allan nhw ymdopi â’r daith fentrus yma a dod o hyd i’r trysor cudd…?
Ymunwch â grŵp theatr cymunedol Hijinx, Odyssey, ar antur fyrlymus wedi ei hysbrydoli gan ‘Ynys y Trysor’ Robert Louis Stevenson. Yn cynnwys cast mawr o berfformwyr anabl a heb fod yn anabl, mae’r sioe deuluol hon yn llawn o gomedi, cyffro a cherddoriaeth wreiddiol.
Ond cofiwch… gwyliwch y cracen!
Hygyrchedd:
Roedd gan bob perfformiad ddisgrifiad sain gan Alastair Sill.
Roedd gan bob perfformiad BSL gan Sami Dunn.
Celf gan Ozzy Corbett.