Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru. Fe’i crëwyd gennym yn 2008 i ddarparu cyfle i artistiaid anabl ac artistiaid ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth berfformio ar lwyfan amlwg.Â
Trelar 2024.
Unity Festival 2022.
Ein Gŵyl Undod fwyaf eto, oedd yn cynnwys yr Ŵyl Ffilmiau Undod gyntaf erioed! Aethom â Gŵyl Undod 2022 i Gaerdydd, Bangor a Llanelli a hefyd roi cynnwys ar ein llwyfan ddigidol, Hijinx Mobile. Daeth artistiaid o’r Almaen, Ffrainc, Sbaen ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Darganfod MwyMission Control 2019.
Cyd-gynhyrchiad gyda National Theatre Wales i gyd-fynd â hanner canmlwyddiant glaniad y lleuad. Fe’i perfformiwyd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ac roedd yn cynnwys dros 80 o berfformwyr, gan gynnwys Actorion Hijinx. Roedd hon yn sioe unigryw.
Gŵyl Undod 2017 – Caernarfon.
Am y tro cyntaf, aethom â Gŵyl Undod i dref hardd Caernarfon, le bu perfformwyr yn meddiannu’r Doc, sgwâr y dref, Canolfan Gelfyddydau Galeri a safle treftadaeth y byd Castell Caernarfon.
Gŵyl Undod 2016- Caerdydd.
Dros gyfnod o bythefnos, bu artistiaid o Sweden, Sbaen, Ffrainc, yr Almaen, Ethiopia a’r Deyrnas Unedig (DU) yn perfformio ledled Caerdydd: yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn theatr The Other Room yn Porter’s, ac yn yr Aes yng nghanol dinas Caerdydd.
Gŵyl Undod 2015 – Caerdydd.
Bu perfformwyr o Mozambique, Ffrainc, yr Almaen, Gwlad Belg, yr Eidal a’r DU yn arddangos rhai o’r goreuon ym myd celfyddydau gan bobl anabl, gan gynnwys theatr glasurol o Sweden, fflamenco, dawns ar thema tecila a theyrnged i Frida Kahlo.
Digwyddiad y dylai Cymru fod yn falch iawn ohono
Wales Arts Review
Mae’n dwyn ynghyd rhai o’r celfyddydau cynhwysol gorau o ledled y byd.
Lyn Gardner, The Guardian