Rydyn ni wrth ein bodd yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda'r cwmni cynhyrchu teledu o fri rhyngwladol o Gaerdydd, Bad Wolf!
Bydd y bartneriaeth hon yn cefnogi ein gwaith cynhyrchu ffilm parhaus hyd at 2022, gan gynnwys saethu a ffilmio dwy ffilm fer newydd eleni - Glitch a Stones and Dust. Mae Glitch yn mynd trwy y broses ol – gynhyrchu ar hyn o bryd, ac yn ffilm fer tywyll a iasoer a gafwyd ei ddatblygu gyda actorion Hijinx yn ystod y clo fawr Covid-19. Mae’n cynnwys Tom Powell fel Tom, sy’n ddarganfod gan ei gysylltiad ‘wi-fi’ pwerau ddirgel ddychrynllyd. Ar y llaw arall, mae Stones & Dust yn dilyn stori Carys wrth iddi ymateb i gais ei thad, sydd ar farw, i ymweld ag ef a’i brawd ieuengaf ym mherfeddion Cymru, wrth iddo geisio gwneud iawn am flynyddoedd o esgeulustod. Byddai’r ffilm ffuglen fer hon yn mynd i fewn i gynhyrchiad yn Hydref 2021.
Byddai’r partneriaeth yn ein galluogi i adeiladu perthnasoedd cryfach fyth o fewn y diwydiannau sgrin ar gyfer ein actorion gydag anableddau dysgu a/neu awtisiaeth, ac ehangu cyfleoedd iddynt i gael eu weld, eu adnabyddu ac eu chlywed.
Mae Bad Wolf yn cwmni cynhyrchu teledu sy’n creu dramau uchelgeisiol, ddychmygol a ddilys ar gyfer marchnatau teledy y DU, UDA ac yn rhyngwladol. Cwmni cynhyrchu sgriptiedig annibynnol wedi'i leoli yn Ne Cymru, Llundain a Los Angeles, mae Bad Wolf yn ganlyniad o dros 15 mlynedd o gydweithio creadigol rhwng y sylfaenwyr Jane Tranter, Julie Gardner a chymuned gynhyrchu a chreadigol Cymru. Mae eu gwaith cynhyrchu diweddar yn cynnwys His Dark Materials, Industry, I Hate Suzie ac A Discovery of Witches, ac maent yn parhau i fwynhau llwyddiant yn y DU ac yn rhyngwladol.
Mewn perthynas â'r bartneriaeth, dywedodd Hannah Raybould, Rheolwr Gweithrediadau Bad Wolf:
Mae Bad Wolf yn credu mewn cyfleoedd, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn falch iawn o fod yn gysylltiedig â gwaith Hijinx, ac yn ychwanegu gwerth ato – gan ei fod yn rhannu ein gweledigaeth ac yn ein cefnogi yn ein nodau.
Hannah Raybould, Rheolwr Gweithrediadau Bad Wolf
Diolch yn fawr Bad Bad Wolf am eich cefnogaeth amhrisiadwy!
I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith ffilm, cysylltwch â Dan McGowan, Pennaeth Ffilm Hijinx - dan.mcgowan@hijinx.org.uk