Swydd Wag: Cynhyrchydd Cysylltiol (Parhaol, 2 ddiwrnod yr wythnos).
Y Swydd
Mae Hijinx yn recriwtio Cynhyrchydd Cysylltiol ar sail rhan-amser i gefnogi’r Pennaeth Ffilm gyda phob agwedd o raglen ffilmiau Hijinx. Yn y swydd Cynhyrchydd Cysylltiol, rydych yn aelod allweddol o’r tîm creadigol ac yn gyfrifol am gynorthwyo’r Pennaeth Ffilm i greu rhaglenni dogfen o safon uchel, ffilmiau byr a ffilmiau hir sy’n arddangos actorion Hijinx ac yn adlewyrchu profiad pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistig. Byddwch hefyd yn cefnogi cynllunio a chyflawni Gŵyl Ffilm Undod.
Bydd gennych brofiad mewn swydd debyg yn y diwydiant Ffilm a Theledu ac yn rhywun llawn cymhelliant sydd yn eich ysgogi eich hun. Byddwch yn cefnogi’r Pennaeth Ffilm gyda phob elfen o’r rhaglen ffilmiau yn Hijinx, gan sicrhau ei bod yn parhau i gael ei gwreiddio yn ei chenhadaeth i gynyddu cynrychiolaeth pobl anabl ar y sgrin.
Swydd Wag
Yn y pecyn hwn, cewch fanylion llawn am y rôl a sut i wneud cais.
Hijinx Associate Producer Job Pack – Cymraeg (Plain Text Word)
Hijinx Associate Producer Job Pack – Cymraeg (PDF)
Os oes angen y wybodaeth am y swydd ar fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar hr@hijinx.org.uk.
Sut i Ymgeisio
Os credwch eich bod chi yn addas ar gyfer y swydd ac y byddech yn hoffi ymgeisio, anfonwch y canlynol atom:
- CV cyfredol yn dweud wrthym amdanoch chi – a pham eich bod yn teimlo mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd, gan sicrhau eich bod yn amlygu eich profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word, os gwelwch yn dda.
- Llythyr esboniadol o ddim mwy na dwy ochr neu fideo o ddim mwy na 5 munud – yn dweud wrthym pam mai chi yw’r ymgeisydd iawn a sut y byddech yn mynd ati i ymdrin â chyfrifoldebau’r swydd. Anfonwch eich llythyr esboniadol ar ffurf dogfen Word.
- Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi ei llenwi – i’w llenwi ar-lein yma – cadarnhewch yn y llythyr esboniadol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.
Dylid anfon ceisiadau at hr@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.
Bydd y ceisiadau’n cau am hanner nos ar 31/01/2025. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 10/02/2025
Telerau.
Teitl swydd: Cynhyrchydd Cysylltiol
Rheolwr Llinell: Pennaeth Ffilm
Yn gyfrifol am: Gwirfoddolwyr a gweithwyr llawrydd yn ôl y gofyn
Contract: Swydd barhaol (6 mis o brawf)
Oriau: Rhan-amser, 15 awr yr wythnos i’w cyflawni’n hyblyg yn ôl y gofyn i gyflawni gofynion y swydd. Rhoddir amser o’r gwaith in lieu.
Yn gweithio o: Swyddfa Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd – gweithio hybrid ar gael
Cyflog/Buddion: £26,500 y flwyddyn pro-rata (£10,600 gwirioneddol)
Mae Hijinx yn cynnig cynllun pensiwn gweithle trwy Nest, cynllun Beicio i’r Gwaith a Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr.
Yn ychwanegol, rydym yn cynnig cefnogaeth i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg. Mae Hijinx wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus a bydd yn gweithio’n glos gyda deiliad y swydd i sicrhau bod ei anghenion hyfforddiant yn cael eu bodloni.
Gwyliau: 25 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol, pro-rata (10.5 diwrnod y flwyddyn; 3 Gŵyl y Banc)