Cyhoeddiad y Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi recriwtio Eloise Tong i swydd Prif Weithredwr dros dro yn Hijinx. Ar hyn o bryd mae Eloise yn Rheolwr Gwasanaeth Theatr a’r Celfyddydau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lle mae’n rheoli’r Gwasanaeth Celfyddydau a Sefydliad Glowyr y Coed-duon. Meddai Cyd-gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Hijinx, Selma Dimitrijevic:

“Rydym yn falch iawn o groesawu Eloise i Hijinx. Roedd y panel cyfweld yn unfrydol wrth weld Eloise fel y person mwyaf dilys, medrus a gwybodus i Hijinx ac fe wnaeth argraff fawr ar bob cam o’r broses. Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at ddechrau gweithio gyda hi ac yn hyderus y bydd yn arwain y cwmni trwy’r cyfnod trosiannol yma gyda dycnwch a chydymdeimlad.”

Selma Dimitrijevic

Bydd Eloise yn cymryd y swydd am gyfnod o naw mis o ganol Gorffennaf, ond mae’n garedig iawn wedi cynnig gwirfoddoli a dechrau cyfarfod y tîm yng Ngŵyl Undod Hijinx yng Nghaerdydd 3 - 7 Gorffennaf. Meddai Eloise:

“Rwyf wedi edmygu gwaith Hijinx o bell ers blynyddoedd a chredaf bod eu cenhadaeth, i sicrhau bod mwy o berfformwyr ag anabledd dysgu a niwrowahanol yn cael eu cynrychioli ar y llwyfan a’r sgrin, yn hanfodol. Rwyf yn gyffrous am gael gweithio ochr yn ochr â’r tîm i’w cefnogi trwy’r cyfnod hwn o newid fel Prif Weithredwr dros dro. Allai ddim aros am gael dechrau arni!”

Eloise Tong