Big Give 2025

Ein hymgyrch i godi rhoddion hanfodol.

Paratowch i weld eich rhoddion yn dyblu!.

Arbedwch y dyddiad! 18 – 25 Mawrth

Dylai’r celfyddydau fod i bawb, ond mae pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn wynebu rhwystrau anferth sy’n eu hatal rhag cymryd rhan neu gael gyrfa yn y celfyddydau.

Mae Hijinx yn sefydliad amlwg yng Nghymru sy’n gweithio bob dydd i chwalu’r rhwystrau hynny – yn cynnig hyfforddiant perfformio wythnosol, cyfleoedd proffesiynol a grwpiau cymunedol cynhwysol sy’n grymuso pobl i ddatblygu sgiliau, cynyddu hyder a dod i ganol y llwyfan.

Y mis Mawrth hwn, mae arnom angen eich help i ddal ati i chwalu rhwystrau. Mae Hijinx yn anelu at godi £2,500 trwy’r ymgyrch Big Give Arts for Impact, ac am un wythnos yn unig bydd pob cyfraniad a roddir yn cael ei ddyblu gan Big Give – sy’n golygu y gallwn godi hyd at £5,000 i gyd!

Mwy isod…

Sut i Gyflwyno Eich Cyfraniadau i Big Give.

Rhaid gwneud rhoddion ar-lein trwy wefan Big Give rhwng canol dydd ar 18 Mawrth a chanol dydd ar 25 Mawrth

Mae’r broses yn syml, a gallwch ddilyn y camau rhwydd hyn:

  1. Ewch i dudalen Hijinx ar wefan ymgyrch Big Give Arts for Impact.
  2. Cliciwch ar y Botwm Glas ‘Donate’ ar yr ochr dde
  3. Dewiswch Swm Eich Cyfraniad
  4. Llenwch y Ffurflen Gyfrannu: Gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost a gwybodaeth am y taliad.

Os ydych yn talu treth yn y Deyrnas Unedig, gallwch ychwanegu Rhodd Cymorth at eich cyfraniad. Mae hyn yn golygu y bydd Theatr Hijinx yn derbyn 25c yn ychwanegol am bob £1 y byddwch yn ei roi, heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Ticiwch y blwch Rhodd Cymorth ar y ffurflen gyfrannu i gadarnhau eich bod yn gymwys.

  1. Cadarnhau a Chyflwyno Eich Cyfraniad:
  2. Derbyn Cadarnhad o’ch Cyfraniad trwy E-bost

Sylwer: The Big Give yw’r llwyfan sy’n gyfrifol am brosesu eich cyfraniad, nid yw Theatr Hijinx yn atebol am unrhyw broblemau yn ymwneud â’r broses dalu. Os byddwch yn profi unrhyw broblemau wrth roi eich cyfraniad, cysylltwch â thîm cymorth Big Give yn uniongyrchol: Ffurflen Gyswllt Big Give

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o Gwestiynau Cyffredin ar eu gwefan yma.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich cyfraniad hael!

Bydd eich cyfraniad yn help i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i Hijinx a’r actorion a chyfranogwyr rhyfeddol yr ydym yn eu cefnogi. Allwn ni ddim gwneud hyn heboch chi, ac rydym mor ddiolchgar am eich caredigrwydd.

Tîm Hijinx

Quote symbol

Mae Hijinx wedi newid fy mywyd. Mae'n wych bod gyda Hijinx, rydych chi'n teimlo'n rhydd a'ch bod chi'n gwneud mwy gyda'ch bywyd.

Cyfranogwr Hijinx

Quote symbol

Nid oedd gan fy merch fywyd o gwbl, dim ffrindiau, dim iechyd meddwl da, dim hyder, yn llythrennol dim llais gan na allai siarad â phobl. Ond nawr mae hi’n berson gwahanol. Mae Hijinx yn achub bywydau ac yn gwneud gwyrthiau.

Rhiant Cyfranogwr Hijinx

Quote symbol

Mae’r profiadau yr wyf wedi eu cael ar y llwyfan yn llawn hud a lledrith, a rhai o’r eiliadau mwyaf balch yn fy mywyd.

Cyfranogwr Hijinx

Arts for Impact.

Mae Arts For Impact yn ymgyrch arian cyfatebol saith diwrnod ar-lein yn cefnogi elusennau celfyddydol a diwylliannol sy’n gweithio i gael effaith cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth gyda New Philanthropy for Arts & Culture (NPAC).