Mae Ailffocysu yn hyfforddiant trwy brofiad sy’n canolbwyntio ar gyfathrebu a deall.
Fe’i datblygwyd dros gyfnod o flwyddyn, ac rydym wedi gweithio â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a’n hactorion ag anabledd dysgu i ofyn y cwestiynau: sut gallwn ni wneud yn well? Pa offer sydd ei angen ar y diwydiant hwn i ddarparu cyfleoedd gwell i artistiaid a gweithwyr proffesiynol ag anableddau dysgu?
Mae ein hyfforddiant personol undydd yn cyflwyno sesiynau chwarae rôl, dan arweiniad actorion dawnus Hijinx. .
Mae’r sesiynau hyn yn adlewyrchu senarios a all ddigwydd yn ystod eich diwrnod gwaith, gan gyflwyno enghreifftiau o fywyd go iawn er mwyn gwella eich cyfathrebu â chydweithwyr ag anabledd dysgu a chydweithwyr nad oes ganddynt anabledd dysgu.