Ni yw’r unig gwrs hyfforddiant perfformio proffesiynol yng Nghymru ar gyfer actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, ac rydym yn darparu cyfleoedd nad ydynt ar gael mewn unrhyw le arall.
Beth fyddaf i’n ei ddysgu.
Byddwch chi’n dysgu sgiliau gan gynnwys paratoi ar gyfer clyweliadau, theatr gorfforol, chwarae rôl, gwaith byrfyfyr, clownio, gwaith masg, dawns, ac actio ar gyfer y sgrin a radio – a byddwch chi’n magu llawer o hyder.
Pwy sy’n ein haddysgu ni.
Mae ein hathrawon yn berfformwyr proffesiynol medrus a phrofiadol iawn sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae staff mewn rhanbarthau gwahanol ledled Cymru yn llunio cyrsiau gan ddefnyddio arbenigedd, cysylltiadau a gwybodaeth leol.
Ym mhle alla i hyfforddi.
Mae gennym bum Academi ledled Cymru – mae dwy wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, ac mae’r lleill wedi’u lleoli ym Bae Colwyn, Caerfyrddin ac Aberystwyth.
Beth yw’r nod.
Rydym eisiau creu rhwydwaith o actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ledled Cymru. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth fel perfformiwr proffesiynol ac yn darparu cyfleoedd i berfformio mewn prosiectau theatr, ffilm a theledu gyda Hijinx neu gwmnïau eraill.
Darganfod fwy.
Holl wybodaeth am pryd a lle mae dosbarthidau yn digwydd, pa fath o weithgareddau rydyn ni'n rhedeg ac unrhyw costau sydd ynghlwm.
Rhagor o Wybodaeth