Dydd Sadwrn 9 Tachwedd.
Mae Gŵyl Ffilm Undod yn cyflwyno detholiad cyffrous, amrywiol o ffilmiau hir a byr wedi eu creu gan a gyda phobl greadigol ac actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, ochr yn ochr â sesiynau cwestiwn ac ateb a thrafodaethau panel.
Gweler rhaglen dydd Sadwrn isod. Gallwch archebu tocynnau i ddangosiadau unigol am £8 / £5.
Neu drwy docyn diwrnod am £25 / £17.50. Mae prynu tocyn diwrnod yn caniatáu ichi gael mynediad i bob dangosiad ar eich diwrnod dewisol am bris gostyngol iawn.
Sesiwn Ffilmiau Byr 2 – Addas i Deuluoedd.
11.30am – 12.30pm
Ein dangosiad cyntaf i gynnwys ffilmiau yn benodol ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc, gydag animeiddio, cerddoriaeth, rhaglenni dogfen a drama o Gymru, Ffrainc, Awstralia a’r Deyrnas Unedig.
On Happiness
Cymru / 2023 / cynghorir U / 3 munud / Bethany Freeman
Mae’r actor a’r ddawnswraig Bethany Freeman yn archwilio’r pethau sy’n dod â llawenydd i’w bywyd, a sut y mae’n dod o hyd i’w hapusrwydd.
Le Petit Casserole d’Anatole (Sosban Fach Anatole)
Ffrainc / 2014 / cynghorir U / 5 munud / Eric Montchaud
Mae Anatole yn gorfod llusgo ei sosban fach hefo fo lle bynnag y bydd yn mynd. Weithiau mae’n mynd o’r ffordd, ond yna mae’n ceisio ei chuddio…
Look the Part
Awstralia / 2021 / cynghorir U / 7 munud / Claire Fletcher
Sam yw gofalwr y theatr sy’n dyheu am fod yn ddawnswraig. Un noson, mae ei hangerdd yn cael ei ddeffro gan ei difa ddychmygol fewnol, Peaches. Pam na wnewch chi ddawnsio hefo nhw?
A Tale of Swords and Smoke
DU / 2024 / cynghorir U / 7 munud / Michael Strachan Brown
Dau anturiaethwr ifanc yn teithio ar draws gwlad bell bell i ffwrdd, lle mae’n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i ddewrder gwirioneddol wrth chwilio am antur, darganfod a threchu anghenfil dychrynllyd sy’n anadlu tân…
Things that Go Unnoticed
Cymru / 2023 / cynghorir U / 7 munud / nifer o gyfarwyddwyr
Opera Ddigidol gyntaf Music Theatre Wales! Stori am bwysigrwydd bod yn ymwybodol o’r byd o’n cwmpas – i greu caredigrwydd a thegwch.
Olan, Earthbound
Awstralia / 2023 / cynghorir U / 11 munud / Tim Grubisic
Mae Olan yr estron wedi breuddwydio o hyd am symud i fyw ar y Ddaear, ond er mwyn gwneud hynny rhaid i’r gynulleidfa ar sioe siarad fwyaf y blaned: The Gravy Train, bleidleisio drosto.
Four Solos in the Wild (part 1) – Wait For Me and The Composer
DU / 2023 / cynghorir U / 10 munud / Erika Juniper, Mervyn Bradley, Ray Jacobs
Dau ddawnsiwr unigol yn datgelu eu perthynas â’r gwyllt mewn dawnsfeydd wedi eu creu a’u ffilmio yng nghoed gwyllt Ty Canol, Sir Benfro. Dyma eich gwahoddiad chi i ddawnsio hefyd!
Sesiwn Ffilmiau Byr 3.
1.30pm – 3pm
Animeiddio, drama, comedi dywyll, rhaglen ddogfen wedi’i hanimeiddio a dawns yn trafod themâu rhywioldeb, natur, teulu, digalondid ac uchelgais bersonol yn y detholiad hwn o ffilmiau o Gymru a’r Deyrnas Unedig. Rhybudd am y cynnwys: cynnwys cignoeth. Bydd sesiwn holi-ac-ateb byr ar ôl y ffilmiau.
Dead Cat Film
DU / 2023 / cynghorir 12A / 5 munud / Josie Charles a Nathan Miller
Comedi fer dywyll ac absẃrd gyda Will Gao (Heartstopper) yn y brif ran ac yn cynnwys llais Hugh Bonneville. Cynhyrchwyd gan Rasp Films sydd wedi cael enwebiad BAFTA.
A Kooky Witchy Girl
Cymru / 2023 / cynghorir U / 3 munud / Lindsay Spellman
Mae’r actor a’r artist Lindsay yn archwilio themâu hapusrwydd – beth mae’n ei olygu a sut y mae’n dangos ei hun – yn y rhaglen ddogfen bersonol hon. Comisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer eu rhaglen Hapus.
Stones and Dust
Cymru / 2022 / cynghorir 12A / 23 munud / Daniel McGowan
Rhybudd am y cynnwys: defnydd ysgafn o gyffuriau. Mae Carys yn ymateb i gais ei thad, sydd ar fin marw, i ymweld ag o a’i brawd iau yng Nghymru, wrth iddo geisio gwneud yn iawn am flynyddoedd o esgeulustod.
Coming Out Autistic
DU / 2022 / cynghorir 18 / 4 munud / Steven Fraser
Rhybudd am y cynnwys – delweddau cignoeth a pheth iaith gref. Rhaglen ddogfen fer sy’n archwilio’r profiad o ddweud wrth y byd eich bod yn awtistig pan fyddwch hefyd yn uniaethu â bod yn LHDTC+
Four Solos in the Wild (part 2) – Let Go and A Safe Place to Rest
DU / 2023 / cynghorir U / 10 munud / Andrew Kelly, Graham Busby, Ray Jacobs
Dau ddawnsiwr unigol yn datgelu eu perthynas â’r gwyllt mewn dawnsfeydd wedi eu creu a’u ffilmio yng nghoed hynafol Ty Canol, Sir Benfro.
Oasis
Canada / 2022 / cynghorir U / 15 munud / Justine Martin
Rhaglen ddogfen am efeilliaid Raphaël a Rémi, y mae un ohonynt yn awtistig, wrth iddyn nhw gyrraedd blynyddoedd yr arddegau ac ystyried sut y gall eu perthynas fod yn newid yn barod.
Sesiwn Ffilm Hir 4.
3.30pm – 5.20pm
Inside My Heart
Moliant i rym dychymyg diderfyn, mae’r actorion o Theatr Kamak yn trafod eu bywydau, breuddwydion a chyfyngiadau eu hunain wrth iddyn nhw greu perfformiad o Furia, stori dylwyth teg am fradychu, dynladdiad ac erotiaeth. Ffilm gyflawn wedi ei ffilmio’n gywrain a llawn steil yn cymysgu dogfen, ffuglen a ffilmio tu ôl i’r llenni wrth i Kamak gychwyn ar ddod â’r stori glasurol yn fyw, mae Inside My Heart yn ffilm unigryw na ddylech ei cholli.
Bydd sesiwn holi-ac-ateb byr ar ôl y ffilm.
Yr Iseldiroedd / 2022 / cynghorir 12A / 85 mun / Saskia Boddeke
Sesiwn Ffilmiau Byr 4.
6.15pm – 8pm
Dychan anllad ym Mryste, drama gomedi deuluol yng Nghanada, gwrachyddiaeth yn Lloegr yr 1600au, distopia yn Llundain y dyfodol a mabwysiadu yng Nghaerfyrddin yr 20fed ganrif y cyfan yn cael sylw yn ein casgliad o ffilmiau byr, cymysgedd o ffefrynnau’r ŵyl a dangosiad cyntaf y byd (Lost & Found). Rhybudd am y cynnwys: peth iaith sarhaus. Bydd sesiwn holi-ac-ateb byr ar ôl y ffilmiau.
The Cunning
DU / 2022 / cynghorir 12A / 13 mun / Alexandra Maher
Rhybudd am y cynnwys: trais gwaedlyd tuag at anifail am gyfnod byr. 1724 Mae mam a’i merch yn cael eu cyhuddo o wrachyddiaeth. Gyda’i gilydd maen nhw’n llunio cynllun uchelgeisiol i ffoi. Gyda Gemma Arterton yn serennu.
Chicken
Canada / 2023 / cynghorir PG / 14 munud / Lucy McNulty ac Emma Pollard
Mae merch dros ei 30 anffodus, sydd newydd fod yn sengl yn cael ei gorfodi i symud i gartref ei phlentyndod. Wrth iddi ailgysylltu â’i brawd sydd â Syndrom Down, a fydd eu gwahaniaethau yn eu gyrru ar wahân? Ffilm fer sydd wedi ennill gwobrau o Vancouver.
Steve Parker
DU / 2024 / cynghorir 15 / 10 munud / Benedict Robinson
Rhybudd am y cynnwys: peth iaith gref a gwahaniaethol. Moeswers anllad o ddoniol, yn canolbwyntio ar gymeriad grotésg Steve Parker, asesydd budd-daliadau lles, wrth iddo gyflawni ei freuddwyd o waredu pobl anabl o’r byd, ond mae gan karma syniadau gwahanol…
Bebe AI
DU / 2021 / cynghorir 15 / 13 mun / Rebekah Fortune
Wedi ei osod yn y dyfodol agos cyfarwydd, rhaid i gwpl ifanc â Syndrom Down oresgyn rhagfarn a pherygl, er mwyn ceisio achub y babi AI y maen nhw am ei fabwysiadu.
Lost and Found
Cymru / 2024 / cynghorir 12A / 15 munud / Daniel McGowan
Rhybudd am y cynnwys: defnydd o iaith wahaniaethol unwaith, themâu mabwysiadu a gwrthod. Rhaglen ddogfen. Mae dyn gyda Syndrom Down yn ailgreu’r daith a gymerodd ei fam fabwysiedig i ddod o hyd iddo, gan ystyried ei fywyd a’r rhesymau poenus pam y’i rhoddwyd i’w fabwysiadu i gychwyn.
Sesiwn Ffilm Hir 5.
8.15pm – 9.45pm
Shadow
Rydym yn cloi ein gŵyl gyda dangosiad cyntaf yng Nghymru o’r ffilm hon sydd wedi ennill SXSW. Mae Shadow yn dilyn triawd o ymgyrchwyr ag anableddau dysgu wrth iddyn nhw gynnal cyfarfod yn neuadd y dref am effeithiau deallusrwydd artiffisial yn y dyfodol. Wedi ei haddasu o lwyddiant rhyngwladol ar lwyfannau Back to Back, The Shadow Whose Prey the Hunter Becomes, dilynir Shadow gan sesiwn holi ac ateb gyda’r cyfarwyddwr Bruce Gladwin.
Bydd sesiwn holi-ac-ateb byr ar ôl y ffilm.
Awstralia / 2022 / 15 / 58 munud / Bruce Gladwin