Kimberly Sanchez.
Fy enw yw Kimberly Sanchez ac rwyf yn artist cyfrwng-cymysg. Fy enw ar y rhyngrwyd yw Kyxof. Rwyf wedi bod yn byw yng Nghymru am chwe blynedd bellach ac ar hyn o bryd rwy’n astudio cwrs gradd sylfaen mewn Celf a Darlunio.
Rwy’n caru unrhyw beth sy’n ymwneud ag animeiddio a chelf liwgar. Fodd bynnag, yr hyn rwy’n ei garu fwyaf yw dysgu rhagor o ddulliau o fynegi fy hunan drwy wahanol fathau o gelf. Fy nghryfder yw celf ddigidol gydag arddull gartwnaidd ac anime. Ar y llaw arall, rwy’n ddigon hapus i weithio mewn cyfryngau traddodiadol oherwydd bod fy niddordeb yn amrywio o gelf ddilyniannol i collage.
Eleni, agorais shop fach yn Storenvy, gyda gwaith ffan a gwaith gwreiddiol, yr wyf yn ei rheoli ochr yn ochr â chelf ffan yr wyf yn ei werthu yn RedBubble.