Jessica Chun.
Fy enw yw Jessica Chun. Rwy’n dod o Hong Kong, dinas fach yn Tsieina, ac ar hyn o bryd rwy’n astudio Gradd Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor. Rwy’n hoffi gweithio gyda gwahanol gyfryngau celf, er enghraifft, paent, digidol a ffotograffiaeth.
Rwy’n hoffi darlunio profiadau o eiliadau sy’n gofiadwy, sef y rheswm pam roedd y prosiect 12 diwrnod PAWB Hijinx hwn yn gyfle gwych i mi.
Roedd darlunio ar nosau Llun gydag Odyssey ar Zoom yn brofiad gwerthfawr i mi oherwydd deuthum i adnabod y grŵp. Roedden nhw’n hwyl ac yn bobl hapus i weithio gyda nhw.
Mae’r gwaith celf wnes i greu ar gyfer 12 Diwrnod PAWB yn cynrychioli fy mhrofiad personol o weithio gydag Odyssey ac yn darlunio’r llawenydd a ddaeth i’r amlwg o’r sesiynau zoom hyn.
Rwyf wir wedi mwynhau’r cyfarfodydd hyn gyda nhw, yn chwarae gemau a gwrando ar hanesion eu bywyd. Er nad oeddwn yn medru mynychu eu hymarferion theatr ar gyfer Pinocchio and The Northern Lights, creodd y cyfarfodydd ddigon o gynnwys ysbrydoledig i ddarlunio fy nhri darlun.
Mae gweithio gyda Hijinx ar y prosiect hwn wedi bod yn bleser pur ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol.
Instagram: @cjmsv.art
Gwefan yma.